AMDAN
Me Against Misery yw'r prosiect diweddaraf gan artist ol-bync Matt Rhys Jones.
"Somewhere between Joy Division, Datblygu and Gary Numan, it's immersive, bristling and intriguingly nocturnal”
– Adam Walton
CERDDORIAETH
LLUNIAU
DATGANIAD I’R WASG
Mae trydydd albwm Me Against Misery, 'Fire in the Den of Thieves', yn addo cyflwyno ei waith mwyaf aeddfed yn thematig eto, gan archwilio materion cymhleth fel dirywiad amgylcheddol, anghydraddoldeb economaidd a difaterwch gwleidyddol trwy ei lens dystopaidd nodweddiadol.
Mae’r albwm yn ymchwilio i themâu anghyfiawnder, adfail amgylcheddol a methiant cyfalafiaeth, yn ôl yr artist, gyda chaneuon fel ‘Neo-Liberal’ a ‘Wolves and Vultures’ yn adrodd hanesion am bryder ac anobaith cymdeithas sydd yng ngafael trachwant corfforaethol. A'r darn gorau yw bod hyn oll wedi'i osod i gefndir teilwng o linellau bas ôl-pync ergydiol, synths goglais, gitarau dirdynnol a pheiriannau drymiau a gannwyd yng nghlwb goth o’r 80au.
Mae'r gitarydd Stuart Anstee yn benthyg ei alawon melancolaidd unwaith eto, gan drwytho'r albwm gyda minimaliaeth atmosfferig sy'n disgleirio'n wirioneddol ar ganeuon fel 'Llymder' a 'Standing in the Ashes'. Mae e hefyd yn cyd-ysgrifennu ar 4 cân.
Mae'r sengl gyntaf 'Gwanwyn' yn rhoi golwg galonogol ond chwerwfelys ar oroesiad a gwytnwch mewn cyfnod tywyll. Wedi'i hysbrydoli gan ddyfyniad Pablo Neruda, 'gallwch dorri'r blodau i gyd ond allwch chi ddim atal y gwanwyn rhag dod', mae 'Gwanwyn' yn taro deuddeg fel 'chwa o awyr iach y gwanwyn ar ôl gaeaf hir a chreulon.
Mae'r teimlad mwy calonogol hwn yn cael ei gynnal pan fydd y trac canlynol 'War' yn cychwyn gyda'i linell synth fath a OMD wrth i Matt Rhys Jones alaru ar hanes cyfarwydd pobl dlawd y dosbarth gweithiol yn lladd ei gilydd ar gais hen ddynion cyfoethog sy'n gwrthod marw.
Mae’r trac olaf, 'Gwlad y Gân' yn gweld Matt Rhys Jones, cefnogwr hirsefydlog o annibyniaeth i Gymru, yn gofyn cwestiynau difrifol am y wlad y mae'n ei alw'n gartref. Yn sicr nid yw'n arbed ei driniaeth 'dal i fyny'r drych' i Gymru ei hun, gan ofyn sut y gall byth symud ymlaen wrth foddi mewn difaterwch a glynu yn gaeth at hen syniadau blinedig er mwyn ceisio arnofio.
Mae ‘Fire in the Den of Thieves’ yn gwahodd gwrandawyr i mewn i dirwedd sonig gysgodol Me Against Misery, gan gydbwyso themâu gothig yr albwm o frwydro a thywyllwch â dyhead am gysylltiad a thrawsnewid, myniad ystyfnig na chaiff gobaith ei golli. Gyda synau sy'n atgoffa rhywun o fandiau fel Joy Division, New Order, the Cure a'r cyn 'Ocean Rain' Echo and the Bunnymen, yn sicr mae rhywbeth yma i ddilynwyr y bandiau hynny. Ond mae yna hefyd rhinwedd bachog yn y cyfansoddi, adleisiau’r Manics efallai, a allai’n hawdd hudo dilynwyr roc a phync. Yn enwedig y rhai sy'n hoffi eu cerddoriaeth ychydig yn dywyllach, neu'n fwy gwleidyddol eu gwefr.
"Rydw i'n taflu goleuni ar ble rydyn ni a beth ddaeth â ni yma. Rwy'n dal drych i fyny ac yn dweud 'cymerwch olwg, ond efallai na fyddwch yn hoffi'r hyn a welwch', meddai Matt Rhys Jones aka Me Against Misery.
"Mae elw a chamfanteisio ers y pandemig newydd gyrraedd lefelau annioddefol. Mae'n gwneud i chi feddwl tybed a fydd pobl byth yn blino o fod yn eiddo i gorfforaethau, neu hyd yn oed sylweddoli eu bod nhw", ychwanega.
" Mae bob amser yn werth cofio, yn sicr yma yng Nghymru o leiaf, nad oes rhaid iddo fod fel hyn, mae gennym ni opsiynau eraill ar gael i ni. Mae yna ffordd arall, dim ond yr ewyllys sydd ei angen".
FIDEO
LAWRLWYTHO
ALBYMS

"Mae ‘Fire in the Den of Thieves’ yn gwahodd gwrandawyr i mewn i dirwedd sonig gysgodol Me Against Misery, gan gydbwyso themâu gothig yr albwm o frwydro a thywyllwch â dyhead am gysylltiad a thrawsnewid, myniad ystyfnig na chaiff gobaith ei golli."
MANYLION
FIRE IN THE DEN OF THIEVES
IAITH: CYMRAEG & SAESNEG
RELEASE DATE: 13 GORF 2025

"Mae ‘Crafangau’ yn ysgytiad costig, barddonol o gythreuliaid personol a chymdeithasol."
